Home Podcasts 'Di'r helmed yn ffitio?
'Di'r helmed yn ffitio?

'Di'r helmed yn ffitio?

Cynan Anwyl 20 Episodes Sep 18, 2026

Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio pob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL.

Episodes

Pennod 12 - DADANSODDI WYTHNOS 01, CHIEFS I'R SUPERBOWL, TIMAU WNAETH DAL FY SYLW A GEMAU I GANOLBWYNTIO AR YN WYTHNOS 02
Pennod 12 - DADANSODDI WYTHNOS 01, CHIEFS I'R SUPERBOWL, TIMAU WNAETH DAL FY SYLW A GEMAU I GANOLBWYNTIO AR YN WYTHNOS 02 Sep 18, 2026 01:01:44 Yn y bennod yma dwi'n dadansoddi wythnos gyntaf yr NFL tymor yma wrth edrych ar y timau wnaeth dal fy sylw (yn dda neud ddrwg). Dwi hefyd yn edrych ar gemau penodol ddylwn ni gyda chanolbwyntio ar yn ail wythnos yr NFL.
Pennod 11 - CYMRO YN CHWARAE'R GEM COLEGOL YN AMERICA, JACOB HATHAWAY YN YMUNO, PROFIAD YN AMERICA, BYWYD FEL NFL FREE AGENT
Pennod 11 - CYMRO YN CHWARAE'R GEM COLEGOL YN AMERICA, JACOB HATHAWAY YN YMUNO, PROFIAD YN AMERICA, BYWYD FEL NFL FREE AGENT Sep 16, 2026 01:03:43 Yn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i cael cwmni Jacob Hathaway, Cymro aeth i America a chwarae Pêl-droed Americanaidd ar y lefel golegol yn Tennessee. Fydd y ni'n trafod ei brofiad yn America, chwarae gyda athletwyr sydd wedi mynd mlaen i'r NFL ac ei blaniau fel NFL Free Agent.
Pennod 10 - MAE'R NFL YN ÔL! RHAGDYBIO'R WYTHNOS CYNTAF O'R NFL, ATEB CWESTIYNAU CHI, BE YDW I WEDI BOD YN NEUD YN DDIWEDDAR?
Pennod 10 - MAE'R NFL YN ÔL! RHAGDYBIO'R WYTHNOS CYNTAF O'R NFL, ATEB CWESTIYNAU CHI, BE YDW I WEDI BOD YN NEUD YN DDIWEDDAR? Sep 11, 2026 01:06:44 Yn y bennod yma dwi'n edrych ymlaen tuag at gemau'r wythnos cyntaf o'r NFL ac yn dyfalu pwy fydd yn fuddugol ym mhob gêm. Dwi'n ateb cwestiynau chi ac yna yn mwydro am sut bethau dwi wedi bod yn neud yn ddiweddar gan gynnwys gêm colegol Dulyn.
Pennod 09 - GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG, ATEB CWESTIYNAU CHI, DADANSODDI'R GEMAU PRESEASON
Pennod 09 - GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG, ATEB CWESTIYNAU CHI, DADANSODDI'R GEMAU PRESEASON Aug 19, 2026 01:03:30 Yn y bennod yma dwi'n siarad am rhai o gemau preseason yr NFL a chwaraewyr penodol fel Fernando Mendoza a Jeremiyah Love. Dwi'n ateb eich cwestiynau chi ac yn siarad am lwyddiant diweddar y bodlediad yn yr Eisteddfod ac yn Gwobrau Podlediadau Cymraeg gan Y Pod Cymru.
Cyfres 02 Pennod 08 - HAYDN YEOMANS YN YMUNO, SGWRSIO AM HANES COBRAS CAERDYDD, HANES CHWARAE AR Y LEFEL UCHAF YM MHRIFYSGOLION PRYDAIN, SUT HWYL CEITH Y DOLPHINS TYMOR YMA?
Cyfres 02 Pennod 08 - HAYDN YEOMANS YN YMUNO, SGWRSIO AM HANES COBRAS CAERDYDD, HANES CHWARAE AR Y LEFEL UCHAF YM MHRIFYSGOLION PRYDAIN, SUT HWYL CEITH Y DOLPHINS TYMOR YMA? Aug 9, 2026 00:58:29 Yn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i fod gyda Haydn Yeomans, llywydd Cobras Caerdydd a chwaraewr i Rhyfelwyr De Cymru. Dwi'n holi Haydn amdan ei brofiad yn chwarae ac yna yn holi sut hwyl ceith ei Miami Dolphins yn yr NFL tymor yma.
Cyfres 02 Pennod 07 - IOAN FURNHAM YN YMUNO, CHWARAE YN ABERTAWE A BRUNEL, HYFFORDDI YNG NGHYMRU AC HANES YR EAGLES.....ETO
Cyfres 02 Pennod 07 - IOAN FURNHAM YN YMUNO, CHWARAE YN ABERTAWE A BRUNEL, HYFFORDDI YNG NGHYMRU AC HANES YR EAGLES.....ETO Jul 29, 2026 01:18:01 Yn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i fod gyda Ioan Furnham, gyn-chwaraewr y Swansea Titans a Brunel Burners. Dwi'n holi Ioan amdan ei brofiad yn chwarae ar hyd pob lefel yn yr wlad gan gynnwys chwarae i tîm rhyfelwyr De Cymru. Yna i gloi y bennod, dwi'n holi Ioan amdan ei Eagles a sut hwyl mae o'n meddwl y cawn nhw tymor yma.
Cyfres 02 Pennod 06 - AARON DONALD NOL YN YR NFL, CHWARAEWYR GYDA'R MWYAF I BROFI, GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG
Cyfres 02 Pennod 06 - AARON DONALD NOL YN YR NFL, CHWARAEWYR GYDA'R MWYAF I BROFI, GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG Jul 15, 2026 00:48:35 Yn y chweched bennod o'r bodlediad dwi'n cyfri'r dyddiau tan gychwyn y tymor trwy edrych ar y newyddion diweddaraf o'r NFL, gan gynnwys rhestru'r chwaraewyr dwi'n credu sydd gyda'r mwyaf i brofi tymor nesaf. Mae gen i fach o newyddion da i rannu hefyd o'r gwobrau podlediadau Cymraeg.
Cyfres 02 Pennod 05 - YR OCTAGON KNIGHTS, PÊL-DROED AMERICANAIDD YNG NGHYMRU, GWILYM EVANS YN YMUNO
Cyfres 02 Pennod 05 - YR OCTAGON KNIGHTS, PÊL-DROED AMERICANAIDD YNG NGHYMRU, GWILYM EVANS YN YMUNO May 20, 2026 00:58:19 Yn y bumed bennod o "Di'r Helmed yn Ffitio?", dwi yng nghwmni Gwilym Evans, gyn-chwaraewr Yr Octagon Knights. Mi fyddai yn holi Gwilym amdan ei hanes yn chwarae yng Nghaernarfon a'i gysylltiad teuluol yn Seattle.
Cyfres 02 Pennod 04 - Dadansoddiad o ddrafft 2026. Pa dîm wnaeth cael y drafft gorau?
Cyfres 02 Pennod 04 - Dadansoddiad o ddrafft 2026. Pa dîm wnaeth cael y drafft gorau? May 12, 2026 01:39:16 Yn y bennod yma mi fyddai yn trafod gydag Iwan pwy dani'n tybio cafodd y drafft gorau blwyddyn yma. Mi fydd y ni'n enwi cwpwl o chwaraewyr sydd wedi dal ein sylw gan hefyd cynnwys y timau a wnaeth methu'r marc yn y broses.
Cyfres 02 Pennod 03 - Y South Wales Warriors a'r gêm yng Nghymru, hyfforddi ym Mhrydain ac yr Indianapolis Colts.
Cyfres 02 Pennod 03 - Y South Wales Warriors a'r gêm yng Nghymru, hyfforddi ym Mhrydain ac yr Indianapolis Colts. May 1, 2026 01:08:41 Yn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda Phrif Hyfforddwr Y South Wales Warriors, Jacob Law. Fyddai'n holi sut cafodd o fewn i'r byd Pêl-droed Americanaidd a sut wnaeth o gychwyn hyfforddi hefyd. Mae'r bennod yma yn y Saesneg yn anffodus ond toddwn i fethu a pheidio cyfweld a hyfforddwr yr unig dîm Pêl-droed Americanaidd yng Nghymru!
Cyfres 02 Pennod 02 - Rownd cyntaf y drafft. James Kellett yn ymuno ac yn rhagfynegi be fydd yn digwydd yn rownd cyntaf y drafft. Fydd yna drama ar y noson?
Cyfres 02 Pennod 02 - Rownd cyntaf y drafft. James Kellett yn ymuno ac yn rhagfynegi be fydd yn digwydd yn rownd cyntaf y drafft. Fydd yna drama ar y noson? Apr 23, 2026 01:04:28 Yn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda James Kellett o'r podlediad "Who's Got the Ball" i drafod gweddill o'r drafft. Mi fydd y ni yn ceisio rhagfynegi pa timau fydd yn creu drama ar y noson, a pa chwaraewyr dani'n credu sydd angen fwy o sylw. Mae’r bennod yma wedi ei ddarparu trwy gyfrwng y Saesneg.
Cyfres 02 Pennod 01 - Y Drafft. Iwan Llewelyn yn ymuno i trafod y rownd cyntaf gan hefyd son am ei Philadelphia Eagles
Cyfres 02 Pennod 01 - Y Drafft. Iwan Llewelyn yn ymuno i trafod y rownd cyntaf gan hefyd son am ei Philadelphia Eagles Apr 20, 2026 01:53:39 Yn y bennod yma mi fyddai yn dadansoddi rownd cyntaf y drafft gyda Iwan Llewelyn gan hefyd clywed sut cychwynodd o gwylio'r gamp a cefnogi'r Eagles. Dyma'r pennod cyntaf o'r ail gyfres.

Recommended